PIW 16
Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol
Ymchwiliad i: Dlodi yng Nghymru
Elfen 4
Ymateb gan: Cyngor ar Bopeth Cymru

 

 

 

 

 

 

Ionawr 2015

4ydd Llawr, Tŷ Trafalgar | 5 Fitzalan Place | Caerdydd | CF24 0ED | Ffôn: 03000 231 011 | Ffacs: 03000 231060

www.citizensadvice.org.uk


Gair am Cyngor ar Bopeth Cymru

 

1.1.      Mae Cyngor ar Bopeth yn elusen annibynnol sy’n cwmpasu Cymru a Lloegr. Mae’n gweithredu fel Cyngor ar Bopeth Cymru yng Nghymru ac mae ganddi swyddfeydd yng Nghaerdydd a’r Rhyl. Mae 20 o Ganolfannau Cyngor ar Bopeth i’w cael yng Nghymru, pob un ohonynt yn aelodau o Cyngor ar Bopeth Cymru, ac yn darparu gwasanaethau o dros 375 o leoliadau.

Mae gan y gwasanaeth Cyngor ar Bopeth ddwy nod:

·         darparu’r cyngor y mae ar bobl ei angen ar gyfer y problemau maent yn eu hwynebu

·         gwella’r polisïau a’r arferion sy’n effeithio ar fywydau pobl.

 

1.2.      Mae’r cyngor a ddarperir gan y gwasanaeth Cyngor ar Bopeth yn rhad ac am ddim, yn annibynnol, yn gyfrinachol a diduedd, ac mae ar gael i bawb beth bynnag fo’u hil, rhyw, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd, oedran neu’u cenedligrwydd.

 

1.3.      Gwirfoddolwyr hyfforddedig yw’r rhan fwyaf o staff gwasanaethau Cyngor ar Bopeth. Mae’r holl staff cynghori, boed yn gyflogedig neu wirfoddol, yn cael eu hyfforddi mewn sgiliau cynghori a chânt ddiweddariadau rheolaidd ar hyfforddiant pwnc-benodol a mynediad i gefnogaeth arbenigol ar bynciau penodol.

 

1.4.      Mae’r Canolfannau Lleol, o dan delerau aelodaeth Cyngor ar Bopeth yn rhoi cyngor craidd yn seiliedig ar dystysgrif o safonau ansawdd ar fudd-daliadau lles/credydau treth, dyledion, tai, cynhyrchion a gwasanaethau ariannol, materion defnyddwyr, cyflogaeth, iechyd, mewnfudo a lloches, materion cyfreithiol, a pherthnasoedd a materion teuluol.

 

1.5.      Bellach mae gan y Gwasanaeth Cyngor ar Bopeth gyfrifoldebau dros gynrychioli defnyddwyr yng Nghymru yn sgil newidiadau Llywodraeth y DU yn y maes defnyddwyr [1]. O 1af Ebrill 2014 mae’r cyfrifoldebau hyn yn cynnwys swyddogaethau statudol a chyfrifoldebau i gynrychioli defnyddwyr ynni a’r post.

 

Crynodeb o’r Pwyntiau Allweddol

 

1.6.      Wrth ddyrannu cyllid i drechu tlodi, mae Cyngor ar Bopeth Cymru yn credu na ddylai rhaglenni sy’n canolbwyntio ar ardaloedd penodol neu bobl benodol gael eu hystyried yn rhaglenni sy’n annibynnol ar ei gilydd. Dylai Llywodraeth Cymru adolygu ei dull cyffredinol o ddyrannu adnoddau i drechu tlodi a cheisio mabwysiadu cyfuniad o ddulliau sy’n seiliedig ar amddifadedd a dulliau economaidd-gymdeithasol er mwyn sicrhau bod pawb sydd angen cymorth yn gallu ei dderbyn, gan roi mwy o bwyslais ar ffactorau sy’n gysylltiedig ag incwm.

 

1.7.      Ar sail profiad Cyngor ar Bopeth, mae dulliau gweithredu sy’n canolbwyntio ar ardaloedd penodol yn gallu gweithio’n dda, ac yn gyffredinol rydym yn cefnogi dull gweithredu ‘o’r gwaelod i fyny’ rhaglenni fel Cymunedau yn Gyntaf gan ei fod yn helpu i sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu darparu ar sail anghenion lleol. Mae canolbwyntio ar y gymuned hefyd yn helpu i hwyluso cysylltiadau cadarnhaol ac yn  gwella dealltwriaeth rhwng sefydliadau lleol o’r gwasanaethau gwahanol a ddarparant i hwyluso taith ddi-dor i’r cleient.

 

1.8       Mae Cyngor ar Bopeth Cymru hefyd yn cefnogi dulliau gweithredu sy’n canolbwyntio ar ardaloedd penodol er mwyn rhoi rhaglenni tlodi tanwydd ar waith, fel cynllun Arbed Llywodraeth Cymru. Rydym yn cydnabod bod gan fodelau o’r fath arbedion maint a bod cyfleoedd ar gael i gyrraedd aelwydydd na fyddent yn ymwybodol fel arall o gynlluniau seiliedig ar alw. Fodd bynnag, rydym yn pryderu am faint o ddata sydd ar gael fel sylfaen i benderfyniadau yn ymwneud â pha ardaloedd y dylid eu targedu. Rydym yn credu y dylai Llywodraeth Cymru gomisiynu arolwg tai cynhwysfawr, yn debyg i’r arolygon yn Lloegr a’r Alban, i gael gwybodaeth fwy cywir am ba ardaloedd o Gymru sydd â’r stoc tai lleiaf effeithlon o ran ynni.  

 

1.9       Un o brif anfanteision mabwysiadu dull gweithredu sy’n canolbwyntio ar ardaloedd penodol yw’r ffaith fod pobl mewn angen sy’n byw y tu allan i’r ardaloedd diffiniedig yn cael eu heithrio o’r cymorth sydd ar gael. Mae hyn yn arbennig o wir am bobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig lle mae’r boblogaeth yn fwy gwasgaredig, ond mae hefyd yn achosi problemau lle mae ffiniau rhaglenni yn yr un trefi/dinasoedd. O ganlyniad, rydym yn credu y dylai rhaglenni gwrthdlodi Llywodraeth Cymru fod yn fwy hyblyg wrth bennu ffiniau yn yr un lleoliadau daearyddol (os nad yw hyn yn digwydd eisoes). 

 

1.10    Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod ei Chynllun Datblygu Gwledig yn seiliedig ar ddadansoddiad llawn o dlodi gwledig yng Nghymru gan gynnwys lleoliad a nodweddion yr aelwydydd tlotaf. Heb y dadansoddiad hwn, bydd yn anodd targedu mesurau tuag at y rhai mwyaf anghenus neu ddatblygu dangosyddion i fesur cynnydd.

 

Ceir ein hymateb llawn isod:

 

Cysondeb daearyddol mentrau gwrthdlodi

 

2.1       Yn ôl profiad Cyngor ar Bopeth, mae pobl sy’n byw mewn tlodi yn wynebu’r un math o broblemau lle bynnag y maent yn byw, yn enwedig y canlynol: incwm isel, dyled, diweithdra, prinder tai addas, a thalu mwy am lawer o nwyddau a gwasanaethau bob dydd (cyfeirir at hyn fel y ‘premiwm tlodi’ yn aml). Mae’r sefyllfa hon wedi gwaethygu dros y blynyddoedd diwethaf oherwydd y dirywiad economaidd, toriadau mewn gwariant cyhoeddus a llawer o ddiwygiadau lles.

 

2.2       Yn ôl ein dadansoddiad mewnol ein hunain, mae tua dwy ran o dair o gleientiaid Cyngor ar Bopeth yng Nghymru yn byw o dan y llinell dlodi. Roedd bron i dri chwarter y problemau a gyflwynwyd i ganolfannau Cyngor ar Bopeth yn 2013/14 yn ymwneud â budd-daliadau/credydau treth (42 y cant) neu ddyledion (31 y cant)[2].

 

2.3       Mae Tabl 1 yn helpu i ddangos y ffaith fod y meysydd sy’n destun ceisiadau cyffredin am gyngor, a chyfran gyfatebol y cleientiaid, yn gymharol gyson ledled awdurdodau lleol Cymru. Yn yr enghraifft isod rydym wedi dewis y tri awdurdod lleol sydd â’r gyfran uchaf o Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is (LSOAs) yn y 10 y cant mwyaf difreintiedig o’r holl LSOAs yng Nghymru, sef Blaenau Gwent, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf, ynghyd â thri sydd â’r gyfran isaf o LSOAs (neu dim un) yn y 10 y cant mwyaf difreintiedig, sef Sir Fynwy, Powys a Cheredigion[3]

 

Tabl 1: Dangosfwrdd Awdurdodau Lleol Cyngor ar Bopeth 2013/14[4]

 

Prif feysydd problemau

Nifer y problemau

Awdurdodau Lleol sydd â’r ganran uchaf o LSOAs mwyaf difreintiedig

Blaenau Gwent

Merthyr Tudful

RCT

Budd-daliadau/ credydau treth

 3,298 (46%)

 6,558 (55%)

21,863 (47%)

Dyledion

2,434 (34%)

3,987 (33%)

16,045 (35%)

Diweithdra

319 (4%)

289 (2%)

1,399 (3%)

Tai

237 (3%)

204 (2%)

1,256 (3%)

Prif feysydd problemau

Awdurdodau Lleol sydd â’r ganran isaf o LSOAs mwyaf difreintiedig

Sir Fynwy

Powys

Ceredigion

Budd-daliadau/ credydau treth

2,488 (37%)

7,656 (45%)

2,717 (41%)

Dyledion

1,330 (20%)

5,736 (34%)

1,786 (27%)

Diweithdra

519 (8%)

830 (5%)

471 (7%)

Tai

506 (8%)

449 (3%)

367 (6%)

 

 

2.4       Ar hyn o bryd rydym yn credu bod anghysondeb daearyddol wrth roi mentrau gwrthdlodi ar waith ledled Cymru. Y prif reswm am hyn yw bod rhai o raglenni gwrthdlodi allweddol Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Cymunedau yn Gyntaf, Dechrau’n Deg a’r Rhaglen Esgyn yn mabwysiadu dull gweithredu sy’n canolbwyntio ar ardaloedd penodol, gan dargedu ardaloedd bach sydd â’r canrannau uchaf o amddifadedd lluosog.  

 

2.5       Rydym yn cydnabod bod nifer o fanteision i ddulliau gweithredu sy’n canolbwyntio ar ardaloedd penodol wrth drechu tlodi:-

·         mae targedu ardaloedd penodol sydd â lefelau uchel hysbys o amddifadedd yn cynyddu cyfleoedd i gyrraedd pobl â’r anghenion mwyaf;

·         mae pobl sy’n byw yn yr ardaloedd hynny yn gallu manteisio ar amrywiaeth eang o weithgarwch a chymorth;

·         mae’n helpu i godi ymwybyddiaeth am wasanaethau lleol ymysg pobl nad ydynt yn gwybod am y cymorth sydd ar gael o bosibl, neu bobl sy’n anfodlon gofyn am gymorth.

 

2.6       Fodd bynnag, mae ein hystadegau yn helpu i ddangos bod pobl yn gallu wynebu tlodi incwm a chael problemau ariannol yn unrhyw ran o Gymru. Un o brif anfanteision unrhyw fenter wrthdlodi sy’n canolbwyntio ar ardaloedd penodol yw’r ffaith fod pobl mewn angen sy’n byw y tu allan i ardaloedd diffiniedig yn debygol o gael eu heithrio o fentrau o’r fath. O safbwynt mentrau Llywodraeth Cymru, mae hyn yn arbennig o wir am bobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig â phoblogaethau mwy gwasgaredig. Er bod Cymru wledig yn fwy cyfoethog na gweddill Cymru ar gyfartaledd, mae yn bocedi o amddifadedd sylweddol o hyd mewn llawer o gymunedau gwledig na allant gyrchu’r cymorth cyllid sydd ar gael drwy raglenni Llywodraeth Cymru, fel Cymunedau yn Gyntaf. Mae effaith byw mewn tlodi yn waeth mewn ardaloedd gwledig hefyd oherwydd ffactorau amrywiol, gan gynnwys mynediad ffisegol gwael at wasanaethau a chostau byw uwch. Rydym yn trafod hyn ymhellach yn adran 4.

 

2.7       Fodd bynnag, rydym hefyd yn cydnabod bod mabwysiadu dull gweithredu sy’n canolbwyntio ar bobl yn unig wrth drechu tlodi, h.y. targedu grwpiau penodol o bobl, ond yn gallu symud y broblem o gyrraedd pawb sydd mewn angen.

 

2.8       Mae adroddiad OSCI 2012, a ystyriodd amddifadedd gwledig a Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALIC), yn ategu ein safbwynt ar gyfyngiadau dulliau gweithredu sy’n canolbwyntio ar ardaloedd penodol[5]. Nododd yr adroddiad fod mesurau sy’n canolbwyntio ar ardaloedd penodol yn llai addas i nodi anfantais wledig wasgaredig, ac er y gall mynegeion amddifadedd fel MALIC fod yn addas fel procsi ar gyfer ‘angen’, dylid defnyddio mesurau mwy uniongyrchol o anghenion grwpiau cleientiaid, fel incwm, lle bo hynny’n bosibl ac y dylai fformiwlâu ariannu adlewyrchu hyn.

   

Mae’r adroddiad yn nodi bod 29 y cant o bobl yng Nghymru sy’n derbyn budd-daliadau incwm neu gyflogaeth yn byw mewn naw awdurdod lleol gwledig yng Nghymru, ond dim ond 13 y cant sy’n byw mewn ardaloedd yn y cwintel mwyaf difreintiedig. Pe bai dangosyddion budd-daliadau incwm a chyflogaeth o’r WMID yn cael eu defnyddio i ddyrannu adnoddau ar gyfer rhaglen wrthdlodi benodol, mae’r adroddiad yn dangos y gallai awdurdodau lleol gwledig dderbyn ddwywaith y cyllid a gânt ar hyn o bryd.

 

2.9       Wrth ddyrannu cyllid i drechu tlodi, mae Cyngor ar Bopeth Cymru yn credu na ddylai rhaglenni sy’n canolbwyntio ar ardaloedd penodol neu bobl benodol gael eu hystyried yn rhaglenni sy’n annibynnol ar ei gilydd.

Yn y cyswllt hwn dylai Llywodraeth Cymru:

·         adolygu ei dull cyffredinol o ddyrannu adnoddau i drechu tlodi a cheisio mabwysiadu cyfuniad o ddulliau sy’n seiliedig ar amddifadedd a dulliau economaidd-gymdeithasol er mwyn sicrhau bod pawb sydd angen cymorth yn gallu ei dderbyn, gan roi mwy o bwyslais ar ffactorau sy’n gysylltiedig ag incwm.

 

Effeithiolrwydd rhaglenni gwrthdlodi sy’n canolbwyntio ar ardaloedd penodol, fel Cymunedau yn Gyntaf

 

3.1       Cyfeirir at Cymunedau yn Gyntaf yn aml fel rhaglen adfywio gymunedol flaenllaw Llywodraeth Cymru. Ar hyn o bryd, mae’n gweithredu ar draws 52 o ardaloedd Clwstwr, sy’n seiliedig yn bennaf ar y 10 y cant o ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Er bod y rhaglen wedi’i hadolygu a’i diwygio sawl gwaith ers ei sefydlu yn 2002, nid yw egwyddor sylfaenol y rhaglen wedi newid, sef rhoi dinasyddion wrth wraidd darpariaeth polisi.

 

3.2       Mae Cyngor ar Bopeth Cymru yn cefnogi’r dull gweithredu ‘o’r gwaelod i fyny’ hwn yn gyffredinol gan ei fod yn helpu i sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu darparu ar sail anghenion lleol a bod cymunedau’n cyfrannu at ddatblygu prosiectau a gweithgareddau sy’n ceisio cynorthwyo pobl leol. Mae hefyd yn helpu i sicrhau nad yw darparwyr gwahanol yn darparu’r un gwasanaethau.

 

            Fodd bynnag, un o’r anfanteision yw’r ffaith ei fod yn dibynnu’n helaeth ar gryfder arweiniad lleol ac yn gallu arwain at anghysondeb mewn ardaloedd gwahanol.

   

3.3       Ers mis Hydref 2013, mae Cyngor ar Bopeth Cymru wedi rheoli Prosiect Canlyniadau Cyffredin Cymunedau yn Gyntaf Llywodraeth Cymru sy’n cefnogi 38 o’r 52 Clwstwr nad oedd ganddynt wasanaethau allgymorth pwrpasol, cymunedol o’r blaen i roi mathau penodol o gyngor, gan gynnwys cyngor ar ddyledion, budd-daliadau lles (gan gynnwys ennill cymaint o incwm â phosibl) a darpariaeth gallu ariannol. Mae’r prosiect yn ariannu 12 canolfan Cyngor ar Bopeth i weithio mewn partneriaeth â sefydliadau cymunedol, trigolion ac asiantaethau allweddol eraill i ddarparu mynediad lleol i gyngor tan fis Mawrth 2016. Ar hyn o bryd mae’n gweithio o dros 120 o leoliadau yn ardaloedd y Clystyrau.

 

3.4       Mae adborth gan gynghorwyr sy’n gweithio ar y prosiect hwn wedi dangos nifer o fanteision allweddol o weithio fel hyn, gan gynnwys:

 

-       caiff gwasanaethau eu darparu yn lleol, gan leihau’r posibilrwydd y bydd cleientiaid yn wynebu costau teithio drud; mae hefyd yn ei gwneud yn haws i bobl dderbyn y cyngor sydd ei angen arnynt, yn enwedig pobl sydd â phroblemau symudedd neu bobl sy’n poeni am deithio’n rhy bell;

 

-       gan fod y prosiect yn un cymunedol ac yn cynnwys dulliau atgyfeirio mwy effeithiol, mae cynghorwyr yn cyrraedd pobl mewn angen na fyddent wedi defnyddio gwasanaethau Cyngor ar Bopeth o’r blaen o reidrwydd;

 

-       mae’n helpu i ddatblygu cysylltiadau cadarnhaol a gwella dealltwriaeth rhwng sefydliadau lleol/grwpiau cymunedol o’r gwasanaethau gwahanol a ddarparant i hwyluso taith ddi-dor i’r cleient.

 

Un agwedd lai cadarnhaol yw’r ffaith ei bod yn ymddangos bod cyfathrebu gwael rhwng sefydliadau ac anghysondeb oherwydd trosiant staff wedi amharu ar gynnydd mewn rhai ardaloedd.  

 

3.5       Mae Cyngor ar Bopeth yn croesawu’r ffaith fod y prosiect hwn yn seiliedig ar ganlyniadau a’r ffaith ei fod yn cydnabod pwysigrwydd asesu effaith darpariaeth gwasanaethau ar fywydau pobl. Rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr 2014, llwyddodd cynghorwyr i helpu tua 10,500 o gleientiaid gyda mwy na 36,000 o broblemau. Arweiniodd y prosiect at enillion incwm gwerth £4.7 miliwn yn ystod y cyfnod hwn, ac fe gafodd gwerth £6.9 miliwn o ddyled bersonol ei rheoli neu ei dileu o ganlyniad i’r cyngor a roddwyd.

 

3.6       Fel y nodwyd uchod, mae’r prosiect hefyd yn dangos sut mae sefydliadau yn cydweithio mewn ffordd drawsbynciol i gyflawni’r amcan o drechu tlodi yng Nghymru, gan weithio mewn ffordd wirioneddol integredig yn y Clystyrau. Mae’r canolfannau’n nodi bod perthynas weithio agos wedi datblygu rhyngddyn nhw eu hunain a gyda mentrau/sefydliadau lleol eraill gan gynnwys Cychwyn Cadarn, Teuluoedd yn Gyntaf, Dechrau’n Deg, sefydliadau sy’n gweithio gyda phobl sy’n dioddef cam-drin domestig, sefydliadau pobl anabl, undebau credyd a banciau bwyd.

           

            Fodd bynnag, ar hyn o bryd nid oes dull ffurfiol ar gael ar gyfer adrodd ar y gwerth ychwanegol hwn i Lywodraeth Cymru. Mae Cyngor ar Bopeth Cymru yn credu y byddai’n fanteisiol hyrwyddo a rhannu rhai o’r arferion gorau hyn rhwng ardaloedd ac y gallai Llywodraeth Cymru helpu i hwyluso hyn.

 

3.7       Er bod canlyniadau’r prosiect hwn yn gadarnhaol iawn (fel y nodwyd eisoes yn adran 2) un o brif anfanteision mabwysiadu dull gweithredu sy’n canolbwyntio ar ardaloedd penodol yw’r ffaith fod pobl mewn angen sy’n byw y tu allan i’r ardaloedd diffiniedig yn cael eu heithrio o’r cymorth sydd ar gael. Gall hyn arwain at broblemau penodol os yw ffiniau rhaglenni yn yr un trefi/dinasoedd. Yn ôl tystiolaeth rhai o’n cynghorwyr, mae’n bosibl bod hyn yn achosi rhwyg mewn rhai cymunedau. O safbwynt y Prosiect Canlyniadau Cyffredin, ar ôl trafod â Llywodraeth Cymru, rydym wedi llwyddo i sicrhau bod modd gweld cleientiaid sy’n byw y tu allan i ardal y Clwstwr, cyn belled â nad yw hyn yn cael effaith niweidiol ar argaeledd cymorth ar gyfer pobl sy’n byw yn y Clwstwr. Rydym yn credu y dylai rhaglenni gwrthdlodi Llywodraeth Cymru fod yr un mor hyblyg wrth bennu ffiniau yn yr un lleoliadau daearyddol (os nad yw hyn yn digwydd eisoes). 

 

3.8       Mae Cyngor ar Bopeth Cymru yn cefnogi dulliau gweithredu sy’n canolbwyntio ar ardaloedd penodol er mwyn rhoi rhaglenni tlodi tanwydd / effeithlonrwydd ynni ar waith. Rydym yn cydnabod bod gan fodelau o’r fath arbedion maint a’u bod yn cynnig cyfleoedd i gyrraedd aelwydydd mewn ardaloedd difreintiedig, a all gael eu hanwybyddu gan gynlluniau seiliedig ar alw fel arall (er ein bod yn cydnabod bod y cynlluniau hynny’n bwysig hefyd).

 

Mae cynllun Arbed Llywodraeth Cymru yn enghraifft o arfer da, ond rydym yn pryderu am faint o ddata sydd ar gael fel sylfaen i benderfyniadau yn ymwneud â pha ardaloedd y dylid eu targedu. Er mwyn gwneud hyn yn effeithiol, mae angen gwybodaeth gywir ar Lywodraeth Cymru am leoliad cartrefi sy’n aneffeithlon o ran ynni yng Nghymru. Rydym yn credu mai arolwg tai cynhwysfawr, yn debyg i Arolwg Tai Lloegr ac Arolwg Cyflwr Tai'r Alban, yw’r ffordd fwyaf effeithiol o nodi pa ardaloedd o Gymru sydd â’r stoc tai lleiaf effeithlon o ran ynni. Byddai hefyd yn ategu data ar amddifadedd neu ddata ar feini prawf cymhwysedd lleol eraill.  

 

3.9       Ar hyn o bryd, mae Cyngor ar Bopeth wrthi’n ymchwilio ar lefel Brydeinig i werth dulliau gweithredu sy’n canolbwyntio ar ardaloedd penodol i raglenni tlodi tanwydd. Bydd y gwaith hwn yn cymharu tystiolaeth o dri chynllun y tair gwlad, gan hwyluso cyfleoedd i rannu arferion da. Byddwn ni’n hapus i rannu canfyddiadau’r gwaith ymchwil hwn â’r Pwyllgor a Llywodraeth Cymru er mwyn llywio eu cynlluniau yn y dyfodol ar gyfer unrhyw raglenni sy’n canolbwyntio ar ardaloedd penodol.

 

Tlodi ac amddifadedd yn y Gymru wledig

 

4.1       Fel y nodwyd yn adran 2, mae pobl sy’n byw mewn tlodi mewn ardaloedd gwledig yn wynebu problemau tebyg i bobl sy’n byw mewn tlodi mewn ardaloedd trefol. Rydym yn croesawu’r pwyslais ar drechu tlodi yng nghynigion terfynol Rhaglen Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020. Rydym hefyd yn cytuno bod angen agwedd gydgysylltiedig tuag at dlodi gwledig er mwyn sicrhau bod ymyriadau penodol o dan y Cynllun Datblygu Gwledig a mesurau polisi ehangach, gan gynnwys y Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi, yn ategu ei gilydd[6].

 

4.2       Er bod rhywfaint o gynnydd wedi’i wneud, mae Cyngor ar Bopeth Cymru yn credu bod llawer o’r problemau a nododd adroddiad ‘Tlodi ac Amddifadedd yn y Gymru Wledig’ 2008 yr Is-bwyllgor Datblygu Gwledig yn parhau hyd heddiw.

 

4.3       Rydym yn credu yn benodol bod angen gwneud gwaith ymchwil digonol i raddfa a natur tlodi gwledig yng Nghymru er mwyn cyfeirio mesurau tuag at y rhai mwyaf anghenus neu ddatblygu dangosyddion i fesur cynnydd. Gall hyn danseilio datblygiad y Cynllun Datblygu Gwledig a’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi.

 

4.4       Mae Cyngor ar Bopeth Cymru yn credu’r canlynol:

 

Dylai Llywodraeth Cymru:

·         sicrhau bod ei Chynllun Datblygu Gwledig yn seiliedig ar ddadansoddiad llawn o dlodi gwledig, gan gynnwys lleoliad a nodweddion yr aelwydydd tlotaf. Dylai hyn gynnwys comisiynu gwaith ymchwil newydd os nad oes data ar gael eisoes

·         sicrhau bod y Gronfa Datblygu Gwledig Gymunedol yn rhoi blaenoriaeth fawr i drechu tlodi.

 

4.5       Incwm a chyflogaeth:

 

4.5.1   Mae gwaith yn parhau i fod yn ffordd allweddol allan o dlodi. Fodd bynnag, mae angen sicrhau bod gwaith a mesurau sy’n ategu gwaith, fel gofal plant, ar gael ac yn hygyrch. Mae lefelau uwch o waith tymhorol a gwaith rhan-amser, ynghyd â chyflogau is yn gyffredinol, yn golygu bod tlodi mewn gwaith yn broblem gynyddol mewn ardaloedd gwledig a bod pobl sy’n byw mewn lleoliadau gwledig yn parhau i fod o dan anfantais oherwydd prinder opsiynau cyflogaeth gwahanol.

 

4.5.2     Mae Rhaglen Esgyn Llywodraeth Cymru yn ceisio dod o hyd i gyfleoedd hyfforddi neu gyflogaeth addas ar gyfer 5,000 o aelwydydd heb waith yng Nghymru. Fodd bynnag, ar hyn o bryd mae prosiectau Esgyn yn cael eu rhoi ar waith mewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf yn unig. Mae’r cynigion terfynol ar gyfer y Cynllun Datblygu Gwledig yn aneglur o safbwynt trefniadau i fynd i’r afael â bod heb waith mewn ardaloedd gwledig lle nad yw’r Rhaglen Esgyn ar waith.  

 

4.5.3     Yn ôl adroddiad Cyngor ar Bopeth yn 2010[7] ar ddiwallu anghenion ar gyfer cyngor mewn ardaloedd gwledig, mae llai o bobl yn manteisio ar fudd-daliadau o gymharu ag ardaloedd trefol. O ganlyniad, bydd dangosyddion sy’n seiliedig ar fudd-daliadau (er enghraifft, y rhai a ddefnyddir ym mharthau cyflogaeth ac incwm MALIC) yn tanamcangyfrif lefelau amddifadedd gwledig. Mae hyn yn arbennig o berthnasol i’r gymuned ffermio sy’n gallu bod yn gyfoethog o ran asedau ond yn dlawd o ran arian.

 

4.5.4     Mae cynorthwyo pobl i hawlio’r holl fudd-daliadau sy’n ddyledus iddynt yn gallu gwneud gwahaniaeth sylweddol i’w hincwm. Mae’r prosiect ‘Cyngor Da, Byw’n Well’ wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i reoli gan Cyngor ar Bopeth Cymru ers mis Ionawr 2012 (dechreuodd y prosiect yn 2001 o dan y teitl ‘Cyngor Da: Iechyd Da’). Prosiect mwyhau incwm sy’n ceisio lleihau tlodi yw hwn, ac mae ar waith ym mhob awdurdod lleol. Yn 2013/14, nodwyd bod y prosiect wedi sicrhau gwerth £7.6 miliwn o fudd-daliadau/enillion ariannol ar gyfer cleientiaid ledled y naw awdurdod lleol gwledig yng Nghymru.

 

           Mae Cyngor ar Bopeth Cymru yn credu’r canlynol:

           Dylai Llywodraeth Cymru:

·         ystyried sut y gellid ymestyn rhaglen Esgyn neu ddarpariaeth debyg i bob ardal wledig yng Nghymru

·         nodi targedau creu swyddi gwledig penodol yn y Rhaglen Datblygu Gwledig

·         parhau â’i hymrwymiad i ariannu rhaglenni mwyhau incwm fel Cyngor Da, Byw’n Well.

 

4.6       Trafnidiaeth:

4.6.1   Mae cyfleoedd gwaith mewn ardaloedd gwledig yn cael eu llesteirio ymhellach gan brinder trafnidiaeth gyhoeddus, trafnidiaeth gyhoeddus ddrud a dibyniaeth fawr ar drafnidiaeth breifat sy’n cynyddu’r gost o deithio i’r gwaith, teithio i gyfweliadau am swyddi neu deithio i gael cymorth arall sy’n gysylltiedig â chael gwaith, yn ogystal â gwasanaethau hanfodol eraill.   

 

4.6.2   Yn ôl gwaith ymchwil a gomisiynwyd gan Cyngor ar Bopeth Cymru ym mis Mawrth 2014,[8] mae dros dri chwarter y gweithwyr sy’n byw mewn ardaloedd gwledig yng Nghymru yn teithio i’r gwaith yn y car (76 y cant), o gymharu â 68 y cant o’r rhai sy’n byw mewn ardaloedd trefol. Yn ôl yr arolwg hwnnw, roedd costau teithio wythnosol cyfartalog mewn ardaloedd gwledig (ar gyfer dulliau teithio o bob math) tua £19.24 yr wythnos o gymharu â £18.34 yr wythnos mewn ardaloedd trefol (gwahaniaeth o tua £47 y flwyddyn).

 

4.6.3   I’r rhai sydd heb gar, gall gwasanaeth bws fforddiadwy olygu’r gwahaniaeth rhwng gallu gweithio a dibynnu ar fudd-daliadau. Yn ôl gwaith ymchwil Cyngor ar Bopeth a Cyngor ar Bopeth yr Alban yn 2010, y prif rwystr i ddod o hyd i swyddi ar gyfer pobl sy’n derbyn lwfans ceisio gwaith oedd yr angen i ddod o hyd i swydd yn agos at le maent yn byw[9].

 

4.6.4   Mae Cyngor ar Bopeth Cymru yn credu’r canlynol:

·         Dylai Grwpiau Gweithredu Lleol (fel y’u disgrifir yn y Cynllun Datblygu Gwledig) weithio gyda darparwyr gwasanaethau trafnidiaeth lleol i ddatblygu atebion hyblyg ac ymatebol i ynysu gwledig, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o opsiynau teithio presennol a newydd.

 

4.7       Tai:

4.7.1   Mae Amcangyfrifon Stoc Anheddau Llywodraeth Cymru ar gyfer 2012-13 yn nodi bod cyfran y stoc tai rhent cymdeithasol yn is mewn awdurdodau gwledig o gymharu ag awdurdodau lleol eraill yng Nghymru. Ceredigion sydd â’r gyfran isaf (9%), sydd ychydig yn fwy na chyfartaledd Cymru (16%).[10] Felly, mae’r prinder tai cymdeithasol fforddiadwy yn bryder mawr o hyd mewn ardaloedd gwledig.

 

4.7.2   Bydd pobl sy’n methu fforddio prynu eu cartrefi eu hunain yn gorfod dibynnu mwy ar y sector rhentu preifat i ddiwallu eu hanghenion tai. Ledled Cymru, mae Cyngor ar Bopeth yn gweld dwywaith yn fwy o gleientiaid sy’n cael problemau â’u tai rhentu preifat na chleientiaid sy’n byw yn y sector tai cymdeithasol. Mae hyn yn rhannol wir am ganolfannau Cyngor ar Bopeth yn y naw awdurdod lleol gwledig. Ers mis Ebrill 2014, maent wedi gweld bron i 1,200 o gleientiaid o’r sector rhentu preifat, o gymharu â thua 550 o gleientiaid o’r sector rhentu cymdeithasol. Mae tenantiaid o’r sector rhentu preifat ledled Cymru yn tueddu i ofyn am gymorth am yr un math o broblemau, a’r 3 prif broblem yw: gwaith atgyweirio a gwaith cynnal a chadw; rhent a thaliadau eraill a diogelu blaendaliadau tenantiaeth.

 

 

4.7.3   O ganlyniad, roeddem yn croesawu camau Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r twf yn y sector rhentu preifat drwy Ddeddf Tai (Cymru) 2014, sy’n cynnwys cofrestru, trwyddedu a hyfforddi gorfodol ar gyfer landlordiaid yn y sector rhentu preifat.

 

Mae’r Bil Rhentu Cartrefi arfaethedig hefyd yn gam cadarnhaol i helpu i egluro’r berthynas rhwng landlordiaid a thenantiaid, hyrwyddo dealltwriaeth a sicrhau ymarfer cyson. Rydym yn canmol yr egwyddor a sylwadau swyddogion Llywodraeth Cymru y bydd y Bil yn dechrau mynd i’r afael â throi allan er mwyn dial. Bydd yn bwysig i Lywodraeth Cymru fonitro effaith y newidiadau hyn ar y sector rhentu preifat, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, fel rhan o hyn.

 

4.7.4   Oherwydd natur y stoc tai mewn llawer o ardaloedd gwledig a chostau uwch tanwydd nad yw’n gysylltiedig â nwy, mae tlodi tanwydd yn uwch ar gyfartaledd mewn cartrefi gwledig. Yng Nghymru, mae 45 y cant o aelwydydd sy’n defnyddio’r prif gyflenwad nwy mewn tlodi tanwydd[11]. Oherwydd oedran ac adeiladwaith llawer o gartrefi gwledig, mae’n llawer drutach eu trin â mesurau effeithlonrwydd ynni.

 

Yn 2013, roedd y diweddariad i Gynllun Gweithredu ar gyfer trechu Tlodi Llywodraeth Cymru yn cynnwys ymrwymiad i gynnal astudiaeth ‘i wella ein dealltwriaeth o’r materion sy’n gysylltiedig â thai a thlodi tanwydd mewn ardaloedd gwledig, a’r hyn y gellir ei wneud i leihau tlodi tanwydd yn yr ardaloedd hyn[12]. Hyd y gwyddom, nid yw’r astudiaeth hon wedi’i gweithredu eto. Os yw hyn yn wir, rydym yn credu y dylai gael blaenoriaeth.

 

4.7.5   Mae Cyngor ar Bopeth Cymru yn credu’r canlynol:

Dylai Llywodraeth Cymru:

·         bwrw ymlaen ar unwaith â’i hastudiaeth arfaethedig o dlodi tai a thlodi tanwydd mewn ardaloedd gwledig, os nad yw wedi gwneud hynny eisoes.

·         dylai’r astudiaeth hon hefyd gynnwys dadansoddiad o’r broblem gyffredinol o dai fforddiadwy yn y Gymru wledig, a chynigion ar gyfer sut i’w datrys. 

 

4.8       Mynediad at wasanaethau:

 

4.8.1     Mae effaith byw mewn tlodi yn waeth mewn ardaloedd gwledig yn aml oherwydd mynediad ffisegol gwael at wasanaethau yn ogystal â chostau byw uwch.

 

4.8.2     Yn ôl gwaith ymchwil diweddar a gomisiynwyd gan Cyngor ar Bopeth Cymru ym mis Mawrth 2014,[13] mae bron i ddwywaith cyfran y bobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig (11%) yn ei chael yn anodd dod o hyd i beiriant arian parod di-dâl na phobl sy’n byw mewn ardaloedd trefol (6%). Hefyd, mae mwy nag 1 o bob 7 unigolyn sy’n byw mewn ardal wledig (15%) yn ei chael yn anodd defnyddio banc/cymdeithas adeiladu, o gymharu ag 1 o bob 10 (10%) o’r rhai sy’n byw mewn ardaloedd trefol. Gall diffyg mynediad at wasanaethau bancio a thalu ffisegol, fel Swyddfeydd Post a banciau, ei gwneud yn anodd talu biliau, cael arian parod a defnyddio gwasanaethau talu biliau di-dâl.

 

4.8.3     Bydd y broses o gyflwyno’r credyd cynhwysol, a fydd yn disodli chwe budd-daliad ar gyfer y rhai sydd mewn gwaith a’r rhai sydd heb waith, yn cael goblygiadau mawr ar gyfer hawlwyr a’u hangen i gyrchu gwasanaethau ariannol. Gan y bydd taliadau’n cael eu gwneud yn uniongyrchol i gyfrifon banc, bydd angen i hawlwyr gael mynediad hawdd at wasanaethau bancio er mwyn tynnu arian o’u cyfrif a thalu biliau (gan gynnwys rhent). Yn ôl astudiaeth o dros 1,700 o gleientiaid a fyddai’n debygol o dderbyn y credyd cynhwysol mewn tair Canolfan Cyngor ar Bopeth (gan gynnwys Ynys Môn), byddai dros hanner ohonynt (52 y cant) angen cymorth gyda gwasanaethau bancio. Er enghraifft, nid oedd llawer o bobl yn gwybod sut i wneud trefniadau i dalu biliau pwysig neu sut i fonitro eu trafodion bancio[14].

 

4.8.4     Mae Swyddfeydd Post yn darparu gwasanaethau allweddol mewn cymunedau gwledig yng Nghymru. Yn ogystal â bod yn ‘gownteri’ ar gyfer nwyddau’r Post Brenhinol, mae ganddynt y potensial i oresgyn llawer o broblemau sy’n wynebu pobl oherwydd ynysu gwledig drwy wneud cyfraniad allweddol at ddarparu gwasanaethau hanfodol, fel gwasanaethau arian parod a bancio, gwasanaethau’r Llywodraeth a siopa[15]. Mae gwaith blaenorol Llais Defnyddwyr Cymru yn dangos bod Swyddfeydd Post lleol yn gallu bod yn ganolbwynt pwysig mewn ardaloedd gwledig[16]. Mae gwasanaethau Swyddfa’r Post mewn ardaloedd gwledig hefyd yn cael eu darparu drwy wasanaethau allgymorth amrywiol, fel faniau teithiol neu wasanaethau mewn tafarn neu ganolfan gymunedol.

 

4.8.5     Mae rhwydwaith Swyddfa’r Post yn cael ei weddnewid ar raddfa fawr ar hyn o bryd, sy’n golygu y bydd llawer o ganghennau mewn ardaloedd gwledig yn newid i fod yn  ‘Swyddfeydd Post Lleol’[17]. Cododd Dyfodol Defnyddwyr bryderon ynglŷn â mynediad defnyddwyr at wasanaethau a nwyddau Swyddfa’r Post drwy Swyddfeydd Post Lleol mewn ardaloedd gwledig, ac mae amrywiad ar fodel Swyddfa’r Post Leol, sef Lleol a Mwy[18] yn cael ei gyflwyno hefyd. Mae canghennau Lleol a Mwy wedi’u lleoli mewn ardaloedd gwledig iawn fel arfer.

 

Gydol y broses weddnewid hon, bydd yn bwysig sicrhau bod Swyddfa’r Post yn parhau i ddiwallu anghenion y cymunedau gwledig a wasanaethant. Rydym yn croesawu buddsoddiad Llywodraeth Cymru i gefnogi cynaliadwyedd rhwydwaith swyddfa’r post drwy fentrau fel y Gronfa Arallgyfeirio Swyddfeydd Post. Rydym yn credu bod mentrau o’r fath yn allweddol mewn ardaloedd gwledig a hoffem eu gweld yn parhau. Ar adeg o newid sylweddol i’r rhwydwaith, rydym yn credu ei bod yn bwysig iawn cynnig cymorth fel bod busnesau unigol yn gallu cynnalgwasanaethau swyddfeydd post hygyrch a phriodol mewn cymunedau lleol.

 

4.8.6     Mae mynediad at wasanaethau digidol yn dod hanfodol bwysig ar gyfer bywyd bob dydd. Mewn ardaloedd lle mae gwasanaethau ffisegol yn cael eu lleihau, mae mynediad ar-lein hyd yn oed yn bwysicach.

 

Mae mynediad at fand eang cyflym iawn a gwasanaethau ffonau symudol Trydedd Genhedlaeth yn amrywio’n sylweddol ledled Cymru, ac mae llawer o ardaloedd gwledig yn cael eu heffeithio yn anghymesur gan fynediad gwael. Yn ogystal ag ychwanegu at allgau cymdeithasol, gall hyn arwain at anallu i gyrchu’r opsiynau rhataf drwy siopa ar y rhyngrwyd, defnyddio gwefannau cymharu prisiau neu gyngor, ac anallu i gyrchu’r amrywiaeth lawn o wasanaethau ariannol, gan gynnwys gwasanaethau bancio a thalu biliau ar-lein. Fel y nodwyd eisoes ym mharagraff 4.8.3, gall gwasanaethau band eang annigonol hefyd fod â goblygiadau mawr i hawlwyr budd-daliadau wrth i’r credyd cynhwysol gael ei gyflwyno. Disgwylir i’r rhan fwyaf o hawlwyr gyflwyno a rheoli eu cais am fudd-daliadau ar-lein. Mae’r broses o chwilio ac ymgeisio am swyddi hefyd yn dibynnu fwyfwy ar fynediad at y rhyngrwyd.

 

Mae rhai pobl yn dioddef allgáu digidol hefyd gan nad oes ganddynt y sgiliau na’r hyder sydd eu hangen. O ganlyniad, mae’r broses o helpu i ddatblygu sgiliau TG yn bwysig hefyd. Yn ôl ein hastudiaeth ddiweddar o gleientiaid a fydd yn debygol o  dderbyn y credyd cynhwysol, roedd dwy ran o dair ohonynt (66 y cant) yn methu mynd ar-lein i reoli cais yn y cyfnod asesu cyntaf. Ar ôl cael cymorth gan Ganolfan Cyngor ar Bopeth, llwyddodd 62 y cant i wella eu sgiliau a’u galluoedd[19].

 

4.8.7     Yn ôl adroddiad seilwaith cyfathrebu diweddaraf Ofcom, mae gwahaniaeth sylweddol ar hyn o bryd rhwng argaeledd gwasanaethau band eang cyflym iawn mewn ardaloedd gwledig ac ardaloedd trefol. Mae gan 83 y cant o safleoedd trefol fynediad at fand eang cyflym iawn yn y DU, o gymharu â dim ond 22 y cant mewn ardaloedd gwledig[20]. Ar hyn o bryd, Cymru sydd â’r mynediad isaf (55 y cant) at wasanaethau band eang cyflym iawn o holl wledydd y DU (mynediad NGA 58 y cant[21]), er bod mynediad wedi cynyddu dros y flwyddyn ddiwethaf [22]. Powys, Ceredigion, Sir Benfro a Conwy sydd â’r mynediad isaf at fand eang cyflym iawn, sef 0-20 y cant.    

 

4.8.8     Mae Cyngor ar Bopeth Cymru yn croesawu partneriaeth Cyflymu Cymru rhwng Llywodraeth Cymru a BT (sy’n ceisio sicrhau bod 96 y cant o safleoedd yn gallu manteisio ar wasanaeth band eang ffeibr cyflym yng Nghymru erbyn 2016), a Phrosiect Mewnlenwi Cyflymu Cymru ar gyfer safleoedd nad ydynt yn cael eu cwmpasu gan y cynlluniau eraill.

 

Rydym yn credu y dylai ymdrechion i ymestyn y ddarpariaeth i ardaloedd gwledig barhau fel mater o flaenoriaeth, ac y dylid mynd ati mor fuan â phosibl i sicrhau bod cymunedau lleol yn ymwybodol o argaeledd a manteision gwasanaeth band eang ffeibr cyflym.   

 

4.8.9     Mae gwasanaethau cynghori a galluogi yn cyflawni mwy na lliniaru effeithiau tlodi ar unigolion a theuluoedd. Gall cyngor amserol o ansawdd uchel helpu pobl i frwydro yn erbyn gwahaniaethu ac aros mewn cyflogaeth am dâl. Mae gwasanaethau datblygu gallu ariannol fel y Gwasanaeth Cynghori Ariannol (sy’n cael ei ddarparu yng Nghymru gan Cyngor ar Bopeth Cymru) yn helpu pobl i ennill sgiliau cyllidebu a rheoli ariannol.  

 

4.8.10  Fodd bynnag, mae yna heriau penodol wrth ddarparu cyngor a gwasanaethau mewn ardaloedd gwledig, gan gynnwys yr angen i deithio’n bell, costau staff uwch, anawsterau hyrwyddo gwasanaethau a recriwtio gwirfoddolwyr, a phrinder partneriaid atgyfeirio lleol eraill.

 

4.8.11  Gall gwella mynediad ffôn, yn ogystal â darpariaeth ar-lein ac e-bost, helpu i fynd i’r afael â’r broblem hon. Dylai gwella gwasanaethau band eang helpu yn y cyswllt hwn hefyd. Fodd bynnag, mewn rhai achosion bydd angen rhoi cyngor wyneb yn wyneb o hyd, gan gynnwys achosion lle mae angen darllen llawer o ddogfennau neu ddogfennau cymhleth, achosion lle nad oes gan bobl fynediad addas at ffôn neu’r rhyngrwyd, neu achosion lle mae angen ymweld â rhywun yn y tŷ (e.e. oherwydd problemau iechyd neu symudedd). 

 

4.8.12  Un ffordd o wella mynediad at gyngor wyneb yn wyneb yn y Gymru wledig yw hwyluso trefniadau ar gyfer allgymorth lleol, fel gwasanaethau cynghori symudol neu sesiynau cynghori mewn adeiladau cymunedol. Un enghraifft o hyn yw uned symudol Cyngor ar Bopeth Gwynedd, a ariennir gan y Gronfa Loteri Fawr. Mae’r uned yn mynd â gwirfoddolwyr hyfforddedig i leoliadau gwledig lle maent yn cynnig cyngor a mynediad drwy we-gamera i gynghorwyr cyffredinol a gweithwyr achos arbenigol yn swyddfa’r ardal yng Nghaernarfon.  

 

4.8.13 Mae Cyngor ar Bopeth Cymru yn credu’r canlynol:

 

Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod strategaethau datblygu lleol (fel y’u disgrifir yn y Cynllun Datblygu Gwledig):

·         yn cynnwys cynlluniau i gydgysylltu â banciau a darparwyr gwasanaethau ariannol prif ffrwd eraill, yn ogystal ag undebau credyd, er mwyn sicrhau bod pobl mewn ardaloedd gwledig yn gallu cyrchu’r gwasanaethau amrywiol sydd eu hangen arnynt  

·         datblygu sgiliau ariannol pobl drwy ymgysylltu â rhaglenni gallu ariannol, a sicrhau eu bod yn derbyn cymorth datrys problemau gan wasanaethau cynghori cyffredinol

·         sicrhau bod mynediad digidol yn flaenoriaeth uchel ar gyfer ymyriadau lleol, ac ystyried dulliau arloesol o sicrhau mynediad, fel defnyddio siopau, grwpiau cymunedol neu wasanaethau symudol fel darpariaeth cyngor symudol

·         nodi a hwyluso sianeli dysgu er mwyn datblygu sgiliau TG pobl

·         ymgysylltu âphartneriaeth Cyflymu Cymru a chynllun Prosiect Mewnlenwi Cyflymu Cymru i sicrhau mynediad mor eang â phosibl at wasanaeth band eang ffeibr, a helpu i sicrhau bod cymunedau gwledig yn ymwybodol o argaeledd a photensial mynediad gwell mor fuan â phosibl.   

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch ag:

Lindsey Kearton

Swyddog Polisi

Cyngor ar Bopeth Cymru

Llinell uniongyrchol: 03000 231 392

E-bost: Lindsey.Kearton@citizensadvice.org.uk



[1] Ar 1af Ebrill 2013 cafodd y cyfrifoldeb dros gynrychioli defnyddwyr ei drosglwyddo oddi wrth Llais Defnyddwyr i’r gwasanaeth Cyngor ar Bopeth (gan gynnwys Cyngor ar Bopeth Cymru) yn dilyn adolygiad Llywodraeth y DU o’r maes defnyddwyr.

[2] Adolygiad Blynyddol 2013/14 Cyngor ar Bopeth Cymru, Awst 2014

[3] Yn ôl y Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru diweddaraf, Tachwedd 2014

[4] Dylid nodi nad oes modd gwneud cymariaethau uniongyrchol rhwng awdurdodau lleol ynglŷn ânifer y cleientiaid sy’n cael eu gweld a nifer y problemau a godir gan fod hyn yn gallu dibynnu ar boblogaethau lleol yn ogystal agadnoddau/gallu pob canolfan.

 

[5] Oxford Consultants for Social Inclusion (OCSI): Getting the measure of rural deprivation in Wales, comisiynwyd gan Uned Ddata Llywodraeth Leol, Cymru ar ran Fforwm Gwledig CLlLC, Mai 2012, http://www.ocsi.co.uk/news/wp-content/uploads/OCSI-GettingMeasureRuralDeprivationWales.pdf

[6] Ymateb Cyngor ar Bopeth Cymru i Lywodraeth Cymru: Awgrymiadau Terfynol Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-20  http://www.citizensadvice.org.uk/index/policy/policy_publications/rural_development_plan_wales.htm

[7] ‘Meeting the advice needs of rural areas’, Grŵp Materion Gwledig Cyngor ar Bopeth (2010)

[8] Comisiynwyd y gwaith ymchwil fel rhan o Arolwg Omnibws Cymru ac fe’i cwblhawyd gan Beaufort Research Ltd. Mae’r arolwg yn cynnwys trigolion Cymru 16 oed a throsodd. Cynhaliwyd cyfanswm o 1,012 o gyfweliadau rhwng 3 a 21 Mawrth 2014

[9] Fair welfare: supporting claimants into work, Citizens Advice and Citizens Advice Scotland, Medi 2010, http://www.cas.org.uk/fairwelfaresupportingclaimantsbackintowork.aspx

[10] Llywodraeth Cymru: Amcangyfrifon stoc anheddau ar gyfer Cymru, 2012-13, t.6

[11] ‘Off-gas consumers: information on households without mains gas heating – Technical annex’, Llais Defnyddwyr (Medi 2011)

[12] Llywodraeth Cymru: Creu Cymunedau Cryf: Symud Ymlaen â’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi, Gorffennaf 2013, t.24.

[13] Cafodd y gwaith maes ar gyfer yr ymchwil hon ei is-gontractio i Beaufort Research Ltd, Caerdydd fel rhan o Arolwg Chwarterol Omnibws Cymru. Mae’r Arolwg yn ceisio bod yn gynrychioladol o’r boblogaeth oedolion 16 oed a throsodd yng Nghymru. Cynhaliwyd cyfanswm o 1,012 o gyfweliadau rhwng 3 a 21 Mawrth 2014.

[14] Cyngor ar Bopeth: Universal credit managing migration pilot - Final results, Rhagfyr 2013; http://www.citizensadvice.org.uk/index/policy/policy_publications/managing_migration_pilot_final_results.htm  

[15] Consumer Focus (2011) Rural Consumers in the UK

[16] Llais Defnyddwyr Cymru (2011) Adroddiad Post

[17] Yn wahanol i is-swyddfeydd post traddodiadol, mae Swyddfeydd Post Lleol yn darparu gwasanaethau swyddfa’r post fel cynnig eilaidd dros brif gownter manwerthu. Staff manwerthu cyffredinol sy’n gyfrifol am y trafodion, yn hytrach na staff pwrpasol Swyddfa’r Post wrth gownter ar wahân. Lleolir Swyddfeydd Post Lleol mewn safleoedd amrywiol, gan gynnwys siopau cyfleus, gorsafoedd petrol, canolfannau garddio a meddygfeydd milfeddygon. Maent ar agor yn hirach ond mae ystod y nwyddau a’r gwasanaethau a ddarparant yn fwy cyfyng na’r hyn sydd ar gael mewn is-swyddfeydd post.

[18]Mae canghennau Lleol a Mwy yn darparu’r un ystod o nwyddau a gwasanaethau â Swyddfeydd Post Lleol, ond maent yn cynnig gwasanaethau bancio a thalu biliau wyneb yn wyneb a thrafodion cymhleth eraill nad ydynt ar gael mewn Swyddfeydd Post Lleol.

[19] Op cit 14

[20] Ofcom: 2014 Communications Infrastructure Report, t.3

[21] Mae’r rhan fwyaf, ond nid pob un, o dechnolegau ‘mynediad y genhedlaeth nesaf’ (NGA) (e.e. cebl) yn darparu gwasanaeth band eang cyflym iawn

[22] Op cit 20, t.21